Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Beirut |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleng Rufeinig oedd Legio V Alaudae, ("yr ehedyddion"), weithiau hefyd Gallica. Cawsant yr enw oherwydd fod y copa uchel ar eu helmau yn gwneud eu pennau yn debyg i ben ehedydd.
Codwyd y lleng gan Iŵl Cesar yn 52 CC yng Ngâl. Hon oedd y lleng gyntaf i fod yn cynnwys milwyr nad oeddynt yn ddinasyddion Rhufeinig. Ymladdodd y lleng yn rhyfeloedd Cesar yng Ngâl, yna yn y rhyfel cartref rhwng Cesar a Pompeius, ymladdasant ym mrwydrau Thapsus a Munda. Ym mrwydr Thapsus, enillodd eu dewrder yn erbyn ymosodiad eliffantod rhyfel yr hawl iddynt ddefnyddio eliffant fel symbol.
Buont yn ymladd dan Marcus Antonius rhwng 41 a 31 CC, ac mae'n debyg iddynt ymladd ym Mrwydr Actium. O 19 CC hyd 69 OC, roeddynt yn un o'r llengoedd ar afon Rhein, ac ymladdasant dros Vitellius ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum yn 69. Dioddefasant golledion trwm yng ngwrthryfel y Batafiaid yn 70, a dinistriwyd y lleng gan y Daciaid ym Mrwydr Tapae yn 86.